Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

Y DIWYDIANT DŴR, CYMRU

Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1182 (Cy. 241)) er mwyn darparu ar gyfer dirwy ddiderfyn ar gyfer pob trosedd a nodir yn y Gorchymyn hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

Y DIWYDIANT DŴR, CYMRU

Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                          ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 32 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010([1]), a pharagraff 14 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar ***.

Diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018

2. Yn erthygl 21 o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018([2]), hepgorer “nad yw’n fwy nag £20,000”.

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2010 p. 29. Gweinidogion Cymru yw’r Gweinidog mewn perthynas â systemau draenio yng Nghymru yn rhinwedd paragraff 4(a) o Atodlen 3. Mae diwygiadau i Atodlen 3, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

([2])           O.S. 2018/1182 (Cy. 241).